Cynhelir 7fed Gŵyl Wyllt Bwyd a Chefn Gwlad yn Nhyddewi ar ddydd Gwener 29 a dydd Sadwrn 30 Gorffennaf.
Mae'n hyrwyddo bywyd gwledig, a sut allwn ni fanteisio i'r eithaf arno!! Dyma gyfle i ailgydio yn y berthynas â chefn gwlad; ei fwyta, ei goginio, dysgu amdano, a hyd yn oed chwarae ag ef! Fe fydd yn hyrwyddo ac yn arddangos bwyd a dyfwyd neu a gynhyrchwyd yn lleol, neu gynhwysion gwyllt a gasglwyd o'r cloddiau, yr arfordir, y traeth a'r afon ac fe fydd digon i'w weld a'i wneud, AC i'w fwyta wrth gwrs!!
Am y tro cyntaf, fe fydd digwyddiad cerddoriaeth ar ddiwedd yr ŵyl ar nos Sadwrn, felly cofiwch ddod yn ôl i gael y manylion diweddaraf!!
Mae pedwar cogydd gwych wedi cytuno i ddod i'r arddangosfeydd coginio ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, gan gynnwys Anthony Evans o S4C. Yn wir, mae gan yr ŵyl wych hon rywbeth at ddant POB UN, gyda theithiau cerdded, cyflwyniadau, bwyd a diod, adloniant anhygoel a miri ymarferol i bob aelod o'r teulu!!
Fe fydd mwy o wybodaeth am Ŵyl Wyllt Bwyd a Chefn Gwlad a'r Verge ar wefan yr Ŵyl wrth i'r manylion gael eu cadarnhau felly cofiwch ddod yn ôl yn fuan!